Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Conference Room 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2016 |
|
||||
Amser: |
13.00 - 15.05 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2016(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Jan Koziel, Head of Procurement Holly Pembridge, Pennaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, Rheolwr Cydraddoldebau Gwion Evans, Head of Presiding Officer's Private Office Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd.
2 Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol
2.1 Ystâd y Cynulliad
Rhoddwyd diweddariad cryno i'r Comisiynwyr o'r trafodaethau cychwynnol a gynhaliwyd ac sydd wedi'u cynllunio. Roedd disgwyl ymatebion i’r ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud ar yr ystafelloedd pwyllgor newydd ar y llawr gwaelod yn fuan, gan ddisgwyl y bydd y gwaith yn digwydd yn bennaf rhwng y Nadolig a'r Pasg.
2.2 Ymgynghoriad ar y Newid Enw
Rhoddodd y Llywydd y newyddion diweddaraf i'r Comisiynwyr ar waith a oedd wedi'i wneud i baratoi ymgynghoriad cyhoeddus, yn unol â phenderfyniad blaenorol y Comisiwn.
Rhagwelwyd y byddai'r ymgynghoriad yn mynd yn fyw yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos, ac yn parhau ar agor tan 3 Mawrth. Roedd y Comisiynwyr yn fodlon ar y cynnydd a wnaed, gan gynnwys y bwriad i hyrwyddo'r ymgynghoriad a'r arolwg ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thrwy waith y timau cyfathrebu, addysg ac allgymorth.
Fel yr oedd y Comisiynwyr wedi awgrymu, bydd y Llywydd hefyd yn anfon llythyr at yr holl Aelodau, ynghyd â gwybodaeth gefndirol. Gofynnodd y Llywydd i'r Comisiynwyr annog yr Aelodau i ofyn i'w hetholwyr gwblhau'r arolwg.
2.3 Panel arbenigol ar ddiwygio cyfansoddiadol
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar ddiwygio etholiadol yn symud yn ei flaen. Roeddent yn cefnogi'r dull o benodi Cadeirydd â lefel addas o hygrededd academaidd (yr Athro Laura McAllister), a cheisio panel o unigolion amrywiol â phrofiad priodol.
2.4 Tasglu digidol
Cadarnhaodd y Llywydd fod y Tasglu wedi dechrau ar ei waith, a'i bod wedi mynychu'r cyfarfod cyntaf.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad yr adolygiad diogelwch ar gyfer swyddfeydd Aelodau
Yn dilyn cefnogaeth y Comisiwn ar gyfer adolygiad o ddiogelwch mewn perthynas â swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol Aelodau, rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am gynnydd y gwaith hwnnw, ac amlygodd fod cymorth yn cael ei gynnig i Reolwyr Swyddfa gan wasanaeth Cymorth Busnes yr Aelodau.
Roedd Comisiynwyr yn arbennig o awyddus bod yr Aelodau'n deall eu cyfrifoldebau i gymryd camau priodol yn dilyn yr adolygiad. Mae nodyn yn cael ei baratoi gan wasanaeth cyfreithiol y Comisiwn a bydd yn cael ei anfon at yr Aelodau cyn hir.
4 Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol
Trafododd y Comisiynwyr y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft newydd a baratowyd i gymryd lle Cynllun Cydraddoldeb y Cynulliad 2012-16. Yn benodol, gwnaethant drafod agweddau ar y contractau a ddelir gan y Comisiwn.
Trafododd y Comisiynwyr hefyd gynnydd ar draws y Cynulliad yn erbyn camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb 2012-16, fel y nodir yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16. Gwnaethant ofyn am fanylion pellach ynglŷn â'r wybodaeth o ran proffiliau oedran yn yr adroddiad.
Cytunodd y Comisiynwyr ar Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21 a chytunwyd y bydd Joyce Watson, sef yr Aelod sy'n gyfrifol am y portffolio, yn arwain ar oruchwylio'r cynllun gweithredu corfforaethol. Hefyd, cytunodd y Comisiwn ar fersiwn ddrafft Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16 yn barod i'w gyhoeddi.
5 Contractau a chaffael
Cyflwynodd Jan Koziel, y Pennaeth Caffael, drosolwg o bwrpas, rôl a chyfrifoldebau'r gwasanaeth caffael.
Archwiliodd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud â Thelerau ac Amodau yng nghontractau'r Comisiwn, cynaliadwyedd ar gyfer busnesau bach a chanolig, a gweithio gyda chontractwyr ar werthoedd cyffredin.
Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, roedd y Comisiynwyr wedi gofyn cwestiynau am unrhyw effaith a gaiff y broses o adael yr UE ar ein trefniadau caffael – rhoddwyd asesiad cychwynnol o'r sefyllfa yn y papur. Nododd y Comisiynwyr y byddent yn hoffi dechrau ystyried sut y gellid cefnogi marchnadoedd lleol yng Nghymru wrth i'r cyfleoedd gynyddu yn sgil newidiadau sy'n gysylltiedig â'r UE a'r penderfyniad i adael.
6 Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol (Ebrill-Medi 2016)
Cafodd y Comisiynwyr weld Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol cyntaf y Pumed Cynulliad, yn dangos sut y perfformiodd Comisiwn y Cynulliad yn erbyn ei nodau strategol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016.
Holodd y Comisiynwyr am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella absenoldeb salwch. Yn dilyn trafodaethau blaenorol, estynnwyd llongyfarchiadau i staff am dalu cyflenwyr yn brydlon, ond gofynnwyd a oes camau'n cael eu cymryd i sicrhau bod y dull hwn o wneud taliadau'n brydlon yn gyffredin yn y gadwyn gyflenwi.
Croesawyd y perfformiad cadarnhaol a chytunwyd y dylid cyhoeddi'r adroddiad.
7 Adroddiad Cryno i’r Comisiwn (Mai-Rhagfyr 2016)
Rhoddodd yr adroddiad cryno gofnod o waith a llwyddiannau'r Comisiwn yn ystod y cyfnod ers dechrau'r Pumed Cynulliad.
Croesawodd y Comisiynwyr yr adroddiad, gan gytuno y byddai'n adnodd defnyddiol, o un tymor i'r nesaf, fel rhan o'u gwaith goruchwylio a'r gwaith o ddwyn y rheolwyr i gyfrif. Roeddent yn cytuno ei fod yn gofnod gwerthfawr iawn.
Rhoddodd y Comisiynwyr sylwadau manwl ar y potensial ar gyfer gwerthuso cynlluniau ymgysylltu y bydd angen buddsoddi ynddynt yn barhaus, fel y gwaith ar y Senedd Ieuenctid, er mwyn darganfod yr effeithiau hirdymor ar y rhai sy'n cymryd rhan. Gwnaethant sylwadau hefyd ar rôl Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a chyfleoedd sy'n newid yng nghyd-destun gadael yr UE.
8 Y wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd
Cyfarfu Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad ar 21 Tachwedd. Roedd Suzy Davies yn bresennol yn y cyfarfod fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y portffolio, a rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn.
Roedd y manylion yn cynnwys: y pedwar adolygiad archwilio mewnol ffurfiol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor; cyngor Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd unrhyw faterion yn weddill yn dilyn yr archwiliad o gyfrifon y Cynulliad yn 2015-16, a gyflawnwyd yn ddiffwdan diolch i ddull gweithredu a chydweithrediad swyddogion; cyfeiriad at ddatblygu'r system gyllid newydd; ac adroddiad blynyddol yr Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth.
9 Unrhyw fater arall
Llyfr coffa Aberfan
Dywedodd y Llywydd ei bod wedi teithio i Gastell Cyfarthfa ym Merthyr i ymweld â'r arddangosfa sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Llyfr Coffa Aberfan. Llyfr caligraffig ydyw sy'n nodi enwau'r rhai a fu farw yn nhrychineb Aberfan. Y Cynulliad yw ceidwad presennol y Llyfr ond mae wedi ei fenthyca i'r arddangosfa; cafodd y llyfr ei arddangos yn y Pierhead cyn hynny.
Cytunodd y Comisiwn i ddychwelyd y Llyfr yn ffurfiol i Elusen Goffa Aberfan ac y dylid ei arddangos yn llyfrgell gymunedol Aberfan.
Y pynciau a gaiff sylw yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn fydd y strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd.